Wednesday 18 January 2012

Blog Cyntaf

Croeso i flog Cyfreithwyr Agri Advisor.  Un o fy Addunedau Blwyddyn Newydd yw ceisio cadw blog o'r hyn sy'n digwydd gyda Chyfreithwyr Agri Advisor ac i ddarparu gwybodaeth i'n darllenwyr.  Rwy'n gobeithio  bod pawb wedi mwynhau eu Nadolig ac rwy’n defnyddio'r cyfle hwn i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
Mae dechrau'r flwyddyn yn gyfnod lle y gall pawb fyfyrio ar y flwyddyn sydd wedi mynd heibio yn ogystal â meddwl hefyd am y flwyddyn newydd i ddod.   Roedd 2011 yn flwyddyn gyffrous iawn a phrysur i mi yn bersonol wrth i Gyfreithwyr Agri Advisor gael ei lansio ar y 4ydd o Hydref , ac ers hynny rydym wedi bod yn brysur yn sefydlu’r busnes ac yn mynychu digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys y Ffair Aeaf.
 Roedd y Nadolig yn ein tŷ ni yn fater munud olaf eleni – ni wnaethom addurno’r goeden Nadolig na phrynu twrci tan Noswyl Nadolig!  Rwyf wedi addo na fydd hyn yn digwydd eto, ond rwy'n siŵr y bydd noswyl Nadolig blwyddyn nesaf yn union yr un peth!
Mae 2012 yn addo bod yn flwyddyn gyffrous ar gyfer Cyfreithwyr Agri Advisor.   Ein nod yw hysbysebu am Gyfreithiwr Amaethyddol newydd i ymuno â ni,  ac rydym hefyd wedi croesawu ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn delio â chynllunio ar gyfer cleientiaid stad amaethyddol i’n cynorthwyo.
Does dim byd fel  dechrau blwyddyn newydd i wneud i chi ganolbwyntio ar nifer o faterion y mae angen eu trin ac os ydych chi heb dderbyn eich taliad 2011 o dan gynllun y Taliad Sengl,  mae croeso i chi ein ffonio ni i weld a allwn eich helpu i dderbyn y taliad cyn gynted ag y bo modd . Hefyd, os ydych wedi cael didyniadau neu gosbau, cysylltwch â ni.  Mae hi bob amser yn werth gofyn am ein barn i weld beth yw’r rhagolygon o lwyddo i wneud apêl.
Y digwyddiad mawr yn y calendr amaethyddol yr wythnos hon, wrth gwrs, yw’r  gynhadledd Ffermio Rhydychen sydd yn edrych eleni ar Pwer y  Dyfodol mewn Amaethyddiaeth.  Mae'r siaradwyr yn ymddangos yn ddiddorol iawn ac rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddarllen y cyflwyniadau pan fyddant ar gael .  Yn anffodus, nid wyf wedi gallu bod yn bresennol yno eleni, a dydw i ddim yn siŵr a fydd Alan byth yn gadael i mi fynd yno eto ar ôl i mi dorri fy nghoes yno rai blynyddoedd yn ôl!

No comments:

Post a Comment